Skip to content
Bydd y dudalen hon yn cael ei hailysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU maes o law. Ond mae'r cynnwys presennol yn dal yn gywir a chyfredol.

Llifogydd ac erydu arfordirol

Rydym yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Ni, i raddau helaeth, sy’n ariannu gweithgareddau llifogydd a gwaith arfordirol sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (dolen allanol) ar draws y wlad.

Ffeithiau allweddol

  • Mae oddeutu 208,500 o adeiladau yng Nghymru mewn perygl o lifogydd o afonydd a'r môr, ac mae dros 148,000 o'r rhain yn eiddo preswyl.
  • Mae miloedd mwy o adeiladau mewn perygl o lifogydd dŵr wyneb.
  • Amcangyfrifir bod erydu arfordirol yn digwydd ar hyd oddeutu 346km (23%) o arfordir Cymru.
  • Mae arfordir Cymru yn cael ei amddiffyn gan 415km o amddiffynfeydd arfordirol adeiledig.
  • Rydym yn buddsoddi dros £240 miliwn mewn rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol dros oes y Llywodraeth hon (2011-2016) ac rydym wedi elwa o £47 miliwn o gyllid Ewropeaidd ychwanegol.

Pwy sy'n gyfrifol am beth yng Nghymru

Llywodraeth Cymru

Rydym yn gyfrifol am ddatblygu polisi rheoli perygl llifogydd ac erydiad arfordirol. Rydym yn ariannu gweithgareddau llifogydd a gwaith arfordirol sy’n cael ei gyflawni gan awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)

Mae CNC yn cyflawni swyddogaeth oruchwylio mewn perthynas â'r holl waith o reoli perygl llifogydd a pherygl arfordirol yng Nghymru. Maent yn gyfrifol am reoli llifogydd o brif afonydd, cronfeydd dŵr a'r môr ac yn darparu cyngor technegol a chefnogaeth. Maent hefyd yn arwain mentrau cenedlaethol megis Ymwybyddiaeth o Lifogydd Cymru (dolen allanol) a chyhoeddi rhybuddion llifogydd ar draws y wlad.

Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol

Yng Nghymru yr awdurdodau lleol sy'n gweithredu fel yr Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol a hwy sy'n gyfrifol am reoli llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin (nentydd ac afonydd sydd heb eu dosbarthu'n 'brif afonydd'), o ddŵr wyneb a dŵr daear. Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am:

  • baratoi Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd,
  • ymchwilio i ddigwyddiadau o lifogydd yn eu hardal.

Cwmnïau Dŵr a Charthffosiaeth

Cwmnïau dŵr a charthffosiaeth sy'n gyfrifol am lifogydd o systemau dŵr a charthffosiaeth gan gynnwys llifogydd carthffosydd, pibellau neu brif bibell ddŵr wedi torri a llifogydd o ganlyniad i fethiannau yn y system.

Y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn cynghori ar bob agwedd o waith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru, ac yn cefnogi Gweinidogion Cymru a’r holl awdurdodau rheoli perygl Cymru.

Y Dyfodol

O ganlyniad i'r Newid yn yr Hinsawdd, rydym yn debygol o brofi stormydd mwy enbyd a gweld lefel y môr yn codi yn y dyfodol. Bydd hyn yn arwain at fwy o berygl o lifogydd.

Nid yw adeiladu amddiffynfeydd mwy o faint ac o ansawdd gwell a systemau draenio gwell yn bosibl bob amser, ac mae angen i ni edrych ar ffyrdd gwahanol o reoli perygl llifogydd, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a rheoli tir.