Skip to content
Bydd y dudalen hon yn cael ei hailysgrifennu ar gyfer LLYW.CYMRU maes o law. Ond mae'r cynnwys presennol yn dal yn gywir a chyfredol.

Gwybodaeth a pholisïau

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Gwybodaeth a Pholisïau

Fel gweithwyr proffesiynol, rydyn ni’n gweithio â strategaethau a pholisïau bob dydd. 

Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r polisïau a’r strategaethau perthnasol sy’n rheoli ein rhyngweithio â gofalwyr ifanc, a chyflwyno gwybodaeth a pholisïau mewn fformat sy’n hawdd i bobl ifanc ei ddilyn.

Gorchymyn Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014

Deddf Ym mis Ebrill 2016, mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn ein galluogi i adeiladu ar y cynnydd a gyflawnwyd o dan y Mesur Gofalwyr a chryfhau'r ymrwymiad i ofalwyr ymhellach. 

Mae'r Ddeddf yn dod â gwell hawliau i ofalwyr. Am y tro cyntaf, gan ofalwyr

  • hawl gyfartal i asesu a chefnogaeth fel rhai y maent yn gofalu amdanynt 
  • nid oes angen iddynt ddangos eu bod yn darparu gofal sylweddol er mwyn cael sicrwydd bod eu hanghenion a aseswyd, gan alluogi mwy o bobl i gael eu cydnabod fel gofalwr 
  • eu bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Er bod y cyfrifoldeb yn flaenorol ar ofalwyr i ofyn am asesiad, mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i hysbysu rhagweithiol gofalwyr o'u hawl i gael ei asesu, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw un yn colli allan ar y cyfleoedd y mae ganddynt hawl 
  • unwaith y bydd asesiad wedi ei gwblhau, os yw'r gofalwr yn gymwys, mae'n ofynnol i'r awdurdod lleol i ddiwallu'r anghenion hynny a nodwyd ac yn rhoi cynllun gofal statudol yn eu lle.

Bydd hyn yn golygu ofalwyr ifanc hawl i wybod pa wasanaethau y gallant gael a bod yr holl wybodaeth yn gyfredol ac yn hawdd dod o hyd. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol i sicrhau bod y wybodaeth hon ar gael yn hawdd ac arwyddion clir.

Gwasanaethau cymdeithasol

Mae gan bob gofalwr hawl i asesiad o’u sefyllfa ofalu, yn ogystal â’u hanghenion presennol a’r rhai yn y dyfodol. Bydd hyn yn golygu bod gan ofalwyr ifanc hawl i wybod pa wasanaethau y gallan nhw eu cael a gwybod bod yr holl wybodaeth yn gyfoes a’i bod yn hawdd dod o hyd iddi.

Beth gofalwyr ifanc ei eisiau

Mae gofalwyr ifanc yn amrywio’n fawr o ran eu hoedran, eu cefndir, eu hagweddau a’u sefyllfaoedd. Mae ganddyn nhw hawl i gael gwybodaeth sy’n gyfoes, sy’n hawdd i ddod o hyd iddi ac sy’n hawdd i’w deall.

Mae hyn yn cynnwys beth sy’n digwydd, lle a phryd, a gwybodaeth am y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y polisïau a’r cynlluniau sy’n cael eu datblygu.

Mae Erthygl 12 o CCUHP yn dweud bod gan blant a phobl ifanc hawl i ddweud eu dweud ynglŷn â phenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd nhw, ac i’w barn gael ei hystyried. 

‘Mae angen i mi wybod pethau am feddyginiaeth fy mam oherwydd bod fy mam weithiau’n mynd mor isel fel ei bod hi’n anghofio cymryd ei thabledi.’

‘Pan dydy pobl ddim yn dweud pethau wrtha’ i oherwydd eu bod nhw’n meddwl mai dim ond plentyn ydw i, mae’n fy ngwylltio i, gan mai fi sy’n gofalu am fy mam.’

Gwybodaeth y mae gofalwyr ifanc ei heisiau

Efallai y byddech chi’n meddwl bod gwybodaeth yn beth mor amlwg, ond i lawer o ofalwyr mae’n broblem go iawn ac mae weithiau’n hynod anodd iddyn nhw gael gafael ar wybodaeth.

Weithiau, mae polisïau a phrotocolau’n cau plant a phobl ifanc allan rhag derbyn gwybodaeth oherwydd eu hoedran, er bod ei hangen arnyn nhw weithiau i’w helpu nhw i ofalu’n fwy priodol.